Rho'wn fawl [i Dduw / i'n Duw] ar felus dôn

(Gweithredoedd Duw)
1,2,3,4,5,6,7;  1,2,4,5,7.
Rho'wn fawl i'n Duw
    ar felus dôn
  Ei glod o'n calon canwn;
Anrhydedd ei lywodraeth dda,
  Wych, hefyd, a ddyrchafwn.

Rho'ed holl frenhinoedd daear fawr
  Eu gallu lawr yn hollol,
A'u hardd goronau aur,
    a'u cledd,
  Wrth draed ei orsedd rasol.

Cyd-foled y nefolion fry,
  A'r ddaear obry'n ebrwydd;
Y dwyfol fawr drag'wyddol Fod,
  A'n hunig fawr-glod Arglwydd.

Dysgwylied pechaduriaid gwael
  Wrth Dduw am hael drugaredd,
A chryned Satan ffyrnig ffol
  O flaen ei nefol fawredd.

Ei dêg lywodraeth ef a da'n
  Dros fydoedd anweledig,
Dros nef y nefoedd ddedwydd faith,
  Ac uffern gaeth adwythig.

O llywodraethed gras yn drech
  Nâ phob rhyw bechod ffiaidd;
A dwg ni'n dêg, O nefol Dad,
  I feddu gwlad gorfoledd.

Rho imi'th wel'd, O Frenin hedd,
  Fry yn dy ryfedd degwch,
A chanu byth, ar beraidd dant,
  Ogoniant dy hawddgarwch.
Rho imi'th wel'd :: Rho i ni'th wel'd
            - - - - -

Rho'wn fawl i Dduw
    ar felus dôn,
  Ei glod o'n calon canwn;
Anrhydedd ei lywodraeth dda,
  Wych, hefyd, a ddyrchafwn.

Rho'ed holl frenhinoedd daear fawr
  Eu gallu lawr yn hollol,
Eu heirdd goronau aur,
    a'u cledd,
  Wrth draed ei orsedd rasol.

Yr Arglwydd, Brenin nef a llawr,
  Ei orsedd fawr wnaeth uchod;
Mae'n llywodraethu'r byd uwchben,
  A'r holl ddaearen isod.

O boed teyrnasiad gras yn drech
  Na phob rhyw bechod ffiaidd;
A dwg ni'n deg, O nefol Dad,
  I mewn i'th wlad nefolaidd.
Benjamin Francis 1734-99

[Mesur: MS 8787]

gwelir:
  Ein dyled yw dyrchafu clod
  O Arglwydd Dduw bydd inni'n borth
  Yr Arglwydd Brenin nef a llawr

(The Deeds of God)
 
Let us give praise to our God
    with a sweet tune
  His acclaim from our heart let us sing;
The honour of his good, brilliant
  Governance, also, let us exalt.

Let all the kings of the great earth put
  Their power down completely,
And their beautiful gold crowns,
    and their sword,
  At the feet of his gracious throne.

Let the heavenlies above praise together,
  With the earth below readily;
The great, divine, eternal Being,
  And our only praiseworthy Lord.

Let base sinners wait
  On God for generous mercy,
And let furious, foolish Satan tremble
  Before his heavenly majesty.

His fair governance shall come
  Over unseen worlds,
Over the heaven of vast, happy heavens,
  And captive, destructive hell.

O let grace govern supremely
  Over every kind of detestable sin;
And bring us fairly, O heavenly Father,
  To possess a land of jubilation.

Grant me to see thee, O King of peace,
  Above in thy wonderful fairness,
And to sing forever, on a sweet string,
  The glory of thy beauty.
Grant me to see thee :: Grant us to see thee
            - - - - -

Let us give praise to God
    with a sweet tune,
  His acclaim from our heart let us sing;
The honour of his good, brilliant
  Governance, also, let us exalt. 

Let all the kings of the great earth put
  Their power down completely,
Their beautiful gold crowns,
    and their sword,
  At the feet of his gracious throne.

The Lord, the King of heaven and earth,
  His great throne he made above;
He is governing the world overhead,
  And all the earth below.

Let the reign of grace overcome
  Every kind of detestable sin;
And bring us fairly, O heavenly Father,
  Into thy heavenly land.
tr. 2016,22 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~